Acorn by Synergie appoints Michaela Posnett as New Director of Sales

Cadeirydd

Location

Wales

Pay rate, Salary

Up to £377 per day + Expenses

Contract Type

Contract

Summary

Rydym yn falch o gefnogi Cymwysterau Cymru i benodi Cadeirydd newydd ar eu Bwrdd.

Mae Cymwysterau Cymru (QW) yn gyfrifol a...

Job Reference

a1WNz000002BGl3MAG_1742298681

Job description

Rydym yn falch o gefnogi Cymwysterau Cymru i benodi Cadeirydd newydd ar eu Bwrdd.

Mae Cymwysterau Cymru (QW) yn gyfrifol am reoleiddio cyrff dyfarnu a sicrhau ansawdd cymwysterau nad ydynt yn raddau a ddarperir yng Nghymru. Mae Cymwysterau Cymru, fel corff statudol annibynnol, mewn sefyllfa dda i sicrhau bod cymwysterau a gynigir yng Nghymru yn diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a'r economi.

CC (QW) yw'r prif awdurdod ar gymwysterau yng Nghymru ac mae'n rhoi cyngor proffesiynol i Weinidogion Cymru ar faterion perthnasol yn ogystal â gwybodaeth, cyngor a chymorth i ystod eang o randdeiliaid. Mae'n cyfleu gwerth y cymwysterau a gynigir yng Nghymru i randdeiliaid y tu mewn a'r tu allan i Gymru.

Cyfle Cadeirydd

Penodir Cadeirydd Bwrdd Cymwysterau Cymru (y Bwrdd) gan Weinidogion Cymru ac mae'n gyfrifol am arwain y Bwrdd a phennu'r cyfeiriad strategol i Gymwysterau Cymru a monitro'r broses o gyflawni strategaeth fusnes, cynlluniau a pherfformiad ac amcanion y sefydliad. Er mai'r Bwrdd sydd â'r cyfrifoldeb lefel strategol hwn, mae gan y Prif Weithredwr gyfrifoldeb dros reolaeth weithredol Cymwysterau Cymru o ddydd i ddydd.

Manylion Allweddol

  • Lleoliad: Cymru Gyfan - Bydd angen i'r cadeirydd deithio lle mae angen cyfarfodydd wyneb yn wyneb.
  • Ymrwymiad amser: 5 diwrnod y mis ar gyfartaledd.
  • Hyd y swydd: Penodiad cychwynnol o dair blynedd (uchafswm o chwe blynedd)
  • Tâl: £337 y diwrnod (hyd at 7 awr y dydd yn cael ei hawlio yn erbyn cyfradd fesul awr) ac mae gan Gymwysterau Cymru gynllun i ad-dalu treuliau rhesymol, a threuliau eraill yr eir iddynt ar fusnes. Nid yw'r penodiad yn bensiynadwy.
  • Dyddiad cau: 18 Ebrill 2025
  • Cyfweliadau: Mai/Mehefin 2025
  • Dechrau'r penodiad: Ionawr 2026

Crynodeb o Gyfrifoldebau

  • Darparu gweledigaeth ac arweiniad strategol i'r Bwrdd.
  • Meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol â'r Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwyr
  • Ffurfio strategaethau'r Bwrdd.
  • Sicrhau bod y Bwrdd, wrth wneud penderfyniadau, yn rhoi ystyriaeth briodol i ofynion rheoli statudol ac ariannol, prif nodau a swyddogaethau statudol Cymwysterau Cymru a'i fod yn rhoi sylw i'r holl ganllawiau a chyfarwyddyd polisi perthnasol a ddarperir gan Weinidogion Cymru.
  • Sicrhau safonau uchel o reoleidd-dra a phriodoldeb.
  • Cynrychioli barn y Bwrdd i'r cyhoedd ac i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
  • Sicrhau bod holl aelodau'r Bwrdd yn cael eu briffio'n llawn ar delerau eu penodiad ac ar eu dyletswyddau, eu hawliau a'u cyfrifoldebau.
  • Pan fydd penodiadau i swyddi gwag ar y Bwrdd yn cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru, cynghori Gweinidogion Cymru ar anghenion Cymwysterau Cymru a sut y gallai adlewyrchu amrywiaeth Cymru orau.
  • Mynychu adolygiad perfformiad blynyddol, a gynhelir gan Weinidogion Cymru (Gweinidog â Nawdd Cymwysterau Cymru / arweinydd portffolio).
  • Sicrhau bod y Bwrdd yn gweithio'n effeithiol gyda QW (y Bwrdd Gweithredol) i ddatblygu strategaeth a chynlluniau busnes corfforaethol sy'n cael eu craffu a'u monitro'n briodol.
  • Gan weithio gyda'r Prif Weithredwr, yn ei rôl fel Swyddog Cyfrifyddu, sicrhau bod trefniadau llywodraethiant priodol yn cael eu gweithredu yn unol ag arfer gorau a gofynion corff cyhoeddus.
  • Sicrhau bod trefniadau llywodraethiant yn cyflawni'r cyfrifoldebau, swyddogaethau a dyletswyddau cyfreithiol a osodir ar y corff gan Statud.
  • Gweithio'n agos gyda'r Prif Weithredwr i sicrhau bod strategaeth sefydliadol berthnasol yn parhau yn ei lle.

Crynodeb o'r Gofynion

  1. Hanes rhagorol o arweinyddiaeth, trawsnewid sefydliadol a datblygiad ar lefel Bwrdd neu gyfwerth mewn sefydliad cymhleth.
  2. Diddordeb amlwg mewn addysg a dealltwriaeth o'r system addysg yng Nghymru gan gynnwys dealltwriaeth o anghenion a heriau'r dyfodol.
  3. Hanes rhagorol o ysbrydoli ac ysgogi staff a rhanddeiliaid sy'n dangos ymagwedd gynhwysol a chydweithredol gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr staff.
  4. Arwain neu fod yn rhan o'r arweinyddiaeth wrth ddatblygu diwylliannau sefydliadol.
  5. Gallu eithriadol i gyfathrebu, gan gynnwys trin y cyfryngau a chynulleidfaoedd cyhoeddus ehangach, a meithrin perthnasoedd ar bob lefel. Mae angen sgiliau rhyngbersonol cryf, gan gynnwys y gallu i drafod, perswadio a dylanwadu.
  6. Hanes o reoli perthnasoedd cymhleth a heriol ar lefel uwch mewn amgylchedd amlranddeiliad.
  7. Y gallu i sicrhau bod trafodion ariannol y sefydliad yn cael eu cyfrifo'n ddarbodus ac yn systematig, eu harchwilio a'u bod ar gael i'r cyhoedd gan ddangos ymrwymiad i dryloywder a didwylledd.
  8. Dealltwriaeth o gyd-destun y sector cyhoeddus a dealltwriaeth o egwyddorion bywyd cyhoeddus ac ymrwymiad iddynt.
  9. Gallu dangos hanes o ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth a chyflawniad nodedig yn eu herbyn.

Cyfeiriwch at y pecyn ymgeisydd llawn isod am y cyfrifoldebau llawn, y gofynion a gwybodaeth ychwanegol.

Iaith Gymraeg

Mae'r swydd wedi'i hasesu â sgiliau Cymraeg wedi'u nodi fel rhai dymunol.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog ystod eang ac amrywiol o unigolion i wneud cais am benodiadau i gyrff cyhoeddus. Croesewir yn arbennig geisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol, yn y Bwrdd presennol, gan gynnwys y rhai dan 30 oed, pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl a'r gymuned LHDTC+.

Gwybodaeth Ychwanegol

Dewch o hyd i'r pecyn ymgeisydd llawn yma.

To read this advert and material in English, please follow this link.

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Cymwysterau Cymru. Mae hon yn rhoi gwybodaeth am y Bwrdd presennol, ei Gynllun Corfforaethol, ei ddiwygiad presennol o Gymwysterau Cenedlaethol 14-16, a'u rôl reoleiddio.

Gwneud cais

Rydym wedi cael ein cyflogi gan Gymwysterau Cymru i gefnogi'r broses hon, felly byddwch yn ymwybodol mai dim ond cofrestriad o ddiddordeb yw gwneud cais drwy ein gwefan. Os hoffech wneud cais am y rôl hon, ewch i wefan Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru lle byddwch yn ei gweld yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd.

I wneud cais bydd angen i chi gofrestru a lanlwytho CV a datganiad personol i'w hystyried.

Os oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch neu os hoffech gael gwybod mwy, cysylltwch â ni ar y manylion isod:

[email protected] / 07551 353 260

Our specialist consultant

Share

Latest jobs

Mobile Maintenance Electrician (Commercial)

Acorn Job Icon

Cardiff

Acorn Job Icon

£36000 - £38000 per annum + Overtime Rates, Company Van

Acorn Job Icon

Permanent

Expiry Date

13 May 2025

Job Info

Warehouse / Counterbalance FLT Operative

Acorn Job Icon

Newport

Acorn Job Icon

Up to £12.73 per hour

Acorn Job Icon

Temporary

Expiry Date

29 April 2025

Job Info

Unlock your potential for your next career adventure

Register now to start your new journey.

Register now
Unlock your potential for your next career adventure